Sut mae'n gweithio
Anfonir y cylchgronau sydd ar G.Ddisgiau allan mewn cydau arbennig o ddewis y Swyddfa Bost nad oes rhaid talu am eu cludo.
Y cyfan sydd rhaid i'r gwrandawyr ei wneud wedi iddo fo/hi wrando ar y C.Dd yw troi label y cyfeiriad drosodd, ar y cwydyn, a'i anfon yn ôl at Sain Clwyd Sound.
Eiddo'r gwrandawyr ydy'r C.Dd. Ond, os dymunir, gellir ei ddychwelyd yn y cwydyn. Os na ydych wedi derbyn rhifyn un mis gallwch ofyn i ni ei anfon i chi efo C.Dd. y mis canlynol.
Gofyn am G.Dd.
Gall unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru'n ddall neu sydd â nam ar y golwg ac yn byw yng Ngogledd Cymru dderbynC.Dd. Sain Clwyd Sound trwy ofyn i'w gweithiwr/wraig cymdedychithasol gysylltu â ni ar ei ran er mwyn i ni ychwanegu'r enw at ein rhestr ddosbarthu. Ofnwn mai'r unig ffordd y medrwn ymateb i gais yw trwy'r gwasanaeth cymdeithasol.
Os nad ydych yn berchen ar chwaraeydd C.Dd. Cewch un gennym ni'n rhad ac am ddim. Eich cyfrifoldeb chi fydd y periant.
Hefyd gellir anfon y cylchgrawn at unrhyw gymdeithas leol sy'n ymdrin â rhai efo nam ar y golwg ond I
iddynt gysylltu â 'r Swyddog Technegoi drwy e-bost neu drwy ffonio'r ysgrifennydd ar 01824 780346.
Sut cawn ein hariannu
Fel elusen gofrestredig mae Sain Clwyd Sound yn hollol ddibynnol ar roddion gan fusnesau lleol, mudiadau lleol a thrwy'r cyhoedd yn cyfrannu ar ein diwrnod fflagiau blynyddol ac ambell dro drwy gynnal casgliad mewn siopau lleol.
Mae'r defnydd rhad ac am ddim a gawn o'r stiwdio recordio a chael postio'r casetiau'n rhad ac am ddim yn cadw'r costau i lawr ac yn caniatau i'r arian a godwn gael ei neilltuo'n bennaf i ddiweddaru offer ac ar ôl 3 blynedd o wasanaeth i brynu casetiau newydd.